Logo Cyngor Tref Llanrwst

Cyngor Tref Llanrwst

Hafan > Newyddion a Digwyddiadau > Newyddion a Digwyddiadau 2023

Swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol

Pwyntiau 7 – 12 (£22,369 i £24,496) 10 awr yr wythnos pro-rata.

Mae Cyngor Tref Llanrwst am benodi Cynorthwyydd Gweinyddol i gefnogi'r gwaith a wneir gan Glerc y Dref ar ran y Cyngor. 

Bydd y swydd ran amser hon, 10 awr yr wythnos, yn addas ar gyfer person â sgiliau gweinyddol a sgiliau pobl da, sy'n mwynhau ymwneud â'r gymuned leol. Bydd oriau gwaith yn cael eu cytuno gyda'r Cyngor a Chlerc y Dref, ond dylid nodi y bydd elfen o'r swydd yn golygu mynychu cyfarfodydd gyda'r nos (tua 15 y flwyddyn).

Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyddysg yn gweithio gyda chyfres o gynhyrchion Microsoft Office 365, yn enwedig Word ac Excel. Mae cefndir o weithio mewn Llywodraeth Leol neu sefydliad tebyg yn ddymunol. Bydd yr ymgeisydd yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau ymhellach. 

Bydd disgwyl i’r Cynorthwyydd gyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol gan gynnwys paratoi dogfennau cyn a mynychu cyfarfodydd y Cyngor, cymryd nodiadau cyfarfodydd, a drafftio cofnodion, monitro a phrosesu ymholiadau a gwybodaeth e-bost a chyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o fanylion am y swydd, gellir lawrlwytho Pecyn Cais Cynorthwyydd Gweinyddol a Ffurflen Gais Cynorthwyydd Gweinyddol.

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau fydd hanner nos ar y 30ain o Fehefin 2023

Cysylltu

Cyfeiriad Gohebiaeth:
Cyngor Tref Llanrwst
Ty'r Dref
19 Sgwâr Ancaster
Llanrwst
Conwy
LL26 0LD

E-bostiwch: clercllanrwst@outlook.com

Gwasanaeth ffôn ateb ar gael: 01492 643221

Rhif ffôn symudol y cyngor: 07841866826