Logo Cyngor Tref Llanrwst

Cyngor Tref Llanrwst

Yr ydych yma: Newyddion a Digwyddiadau > Newyddion a Digwyddiadau 2022

Hysbysiad o Etholiad

Ethol Cynghorwyr Cymuned ar gyfer y Wardiau Cymunedol

Cael papurau enwebu

1.   Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau un ai ym Modlondeb, Conwy, LL32 8DU neu’n electronig drwy etholiadol@conwy.gov.uk. Maent hefyd ar gael gan Glercod y Cynghorau Cymuned.

Cyflwyno papurau enwebu

2.   Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ddim hwyrach na 4pm ddydd Mawrth, 5 Ebrill 2022.

3.   Gellir danfon papurau enwebu yn bersonol i’r Swyddog Canlyniadau ym Modlondeb, Conwy, LL32 8DU rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig isod.

4.   Os oes mwy nag un ymgeisydd yn yr etholiad, bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Iau, 5 Mai 2022.

Cofrestru Etholwyr

5.   Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn dydd Iau, 14 Ebrill 2022. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn
www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Pleidlais bost a thrwy ddirprwy

6.   Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu bob cais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, ddydd Mawrth, 19 Ebrill 2022. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu eu dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu trefniadau presennol yn barhaol.

7.   Rhaid i bob cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, ddydd Mawrth, 26 Ebrill 2022.

8.   Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth neu’r angen i gydymffurfio â deddfiad neu ganllaw gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â’r coronafeirws gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm, ddydd Iau, 5 Mai 2022. Rhaid i’r anallu corfforol fod wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill 2022. I ymgeisio ar sail gwaith/gwasanaeth neu coronafeirws, mae’n rhaid i’r unigolyn fod wedi dod i wybod na allant fynd i’r orsaf bleidleisio eu hunain ar ôl 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill 2022.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr Etholiad

Cysylltu

Cyfeiriad Gohebiaeth:
Cyngor Tref Llanrwst
The Almshouses
Church Street
Llanrwst
Conwy
LL26 0LE

E-bostiwch: clercllanrwst@outlook.com

Gwasanaeth ffôn ateb ar gael: 01492 643221

Rhif ffôn symudol y cyngor: 07841866826