Logo Cyngor Tref Llanrwst

Cyngor Tref Llanrwst

Yr ydych yma: Newyddion a Digwyddiadau > Newyddion a Digwyddiadau 2021

Rhybudd Etholiad

Rhybudd Etholiad

Cynhelir etholiad ar gyfer un Cynghorydd Cymuned ar gyfer Cyngor Tref Llanrwst (ward Crwst)
Dyddiad yr etholiad: Dydd Iau, 20 Ionawr 2022

Cael papurau enwebu

1. Gellir cael papurau enwebu oddiwrth y Swyddog Canlyniadau, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU. Darperir y Swyddog Canlyniadau, ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol dros yr ardal etholiadol a enwir, papur enwebu i'w lofnodi.
Cyflwyno papurau enwebu
2. Rhaid cyflwyno Papurau Enwebu i'r Swyddog Canlyniadau, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU, ar unrhyw ddydd ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn ond heb fod yn hwyrach na 4pm, ddydd Llun, 20 Rhagfyr 2021.
3. Os bydd etholiad, cynhelir y bleidlais ddydd Iau, 20 Ionawr 2022.

Cofrestru Etholwyr

4. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad yma gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn dydd Mawrth, 4 Ionawr 2022. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Pleidlais Post a trwy Ddirprwy

5. Rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu bob cais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, dydd Mercher, 5 Ionawr 2022. Mae hyn yn cynnwys etholwyr a’u dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu manylion ar sail barhaol.
6. Rhaid i bob cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, dydd Mercher, 12 Ionawr 2022.
7. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth neu’r angen i gydymffurfio gyda deddfiad neu ganllaw gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â’r coronafeirws gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ddydd Iau, 20 Ionawr 2022. Rhaid i’r anallu corfforol fod wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 12 Ionawr 2022. I ymgeisio ar sail gwaith/gwasanaeth neu coronafeirws, mae’n rhaid i’r unigolyn fod wedi dod i wybod na allant fynd i’r orsaf bleidleisio eu hunain ar ôl 5pm ddydd Mercher, 12 Ionawr 2022.

Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen

Cysylltu

Cyfeiriad Gohebiaeth:
Cyngor Tref Llanrwst
The Almshouses
Church Street
Llanrwst
Conwy
LL26 0LE

E-bostiwch: clercllanrwst@outlook.com

Gwasanaeth ffôn ateb ar gael: 01492 643221

Rhif ffôn symudol y cyngor: 07841866826